Rhoi chwaraeon ar y Fwydlen: Pam mae chwaraeon fel Ysgewyll Brwsel

Ar gyfer Chwaraeon a Fi_Y Sgwrs, mae arbenigwyr amrywiol yn rhannu eu syniadau am ddyfodol chwaraeon yng Nghymru.

Heddiw mae Uwch Swyddog Gwybodaeth Chwaraeon Cymru, Lauren Carter-Davies, yn esbonic pam mae hi'n meddwl bod chwaraeon fel Ysgewyll Brwsel. 

Fel ysgewyll Brwsel, gall chwaraeon gyfrannu at lesiant cenedlaethau’r dyfodol, ond nid yw’n hanfodol

Rydyn ni i gyd yn gwybod bod llysiau’n llesol i ni. Yn benodol, mae llawer o fanteision i’w cael o fwyta ysgewyll Brwsel. Maen nhw’n ffynhonnell dda o fitaminau C a K a gwelwyd eu bod yn gallu cyfrannu at ostwng lefelau colesterol. Felly, mae ysgewyll Brwsel yn gallu cyfrannu at lesiant, ond felly hefyd nifer o lysiau eraill. Fe allech chi fynd drwy’ch bywyd i gyd heb fwyta tamaid o ysgewyll Brwsel a bod yn iach.

Yn yr un ffordd, rydyn ni’n gwybod bod gweithgarwch corfforol yn rhan bwysig o ffordd iach o fyw. Yn benodol, mae astudiaethau wedi dangos bod cymryd rhan mewn chwaraeon, un o sawl ffurf ar weithgarwch corfforol, yn gallu gwella iechyd corfforol a meddyliol. Felly, oes posib i chwaraeon gyfrannu at ffordd iach o fyw? Oes. Ond ydi chwaraeon yn hanfodol i ffordd iach o fyw? Nac ydyn.

Yn wir, gall chwaraeon gyfrannu at lawer o nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Gall chwaraeon helpu i ddatblygu sgiliau a phriodweddau unigol, darparu cyfleoedd cyflogaeth a chyfoeth wrth geisio creu Cymru Lewyrchus. Yn yr un modd, gall chwaraeon ddod â phobl at ei gilydd a chynnig cyfleoedd i grwpiau cymdeithasol â chysylltiadau da drwy falchder tîm a rennir a chynnal clybiau wrth geisio creu Cymru o Gymunedau Cydlynus. Fel ysgewyll Brwsel, mae gan chwaraeon lawer i’w gynnig, ond nid ydynt yn hanfodol i lesiant.   

Fel ysgewyll Brwsel, mae chwaraeon yn ymwneud â’r profiad  

Pe bai pob cnwd o ysgewyll Brwsel yn cael eu dileu eleni, byddai’r hil ddynol yn goroesi. Er hynny, mae ysgewyll Brwsel yn rhan bwysig o’r profiad Nadoligaidd traddodiadol yma yng Nghymru.
 
Yn yr un modd, er nad yw chwaraeon yn hanfodol, mae ganddynt ran bwysig i’w chwarae ym mywydau llawer o bobl. O edrych ar y diffiniad o chwaraeon yn yr Oxford English Dictionary, cânt eu disgrifio fel ffynhonnell o ddifyrrwch neu adloniant ar gyfer cael llwyddiant neu bleser. Yn wir, mae gwir werth chwaraeon yn canolbwyntio ar y profiadau maent yn eu darparu. I’r diben hwn, pe baem yn gosod chwaraeon ar byramid Hierarchaeth Anghenion Maslow, ni fyddent yn ffitio yn yr haenau ‘angen sylfaenol’ is fel bwyd neu ddiogelwch. Mae’n fwy tebygol y byddai chwaraeon yn cael eu gosod yn agos at dop y pyramid ymhlith y categorïau ‘angen am barch’ neu ‘hunan-wireddiad’.

Ie, gweithgaredd hamdden yw chwaraeon gan fwyaf. Ac er bod modd dadlau ei fod yn weithgaredd hamdden gwerthfawr iawn, gweithgaredd hamdden ydyw serch hynny. Mae chwaraeon yn cystadlu yn erbyn gofynion eraill am amser pobl a gweithgareddau hamdden eraill ac i’r rhai sy’n wynebu anawsterau fel problemau iechyd, teuluol neu ariannol, mae chwaraeon yn debygol o fod yn isel ar y rhestr o flaenoriaethau. Felly mae’n rhaid i ni fod yn realistig wrth feddwl am chwaraeon. Mewn byd mor brysur, gallai hybu teithio egnïol fel ffurf ar weithgarwch corfforol sy’n hybu iechyd fod yn ffordd fwy effeithlon o wella iechyd corfforol cenedlaethau’r dyfodol na hybu chwaraeon, oherwydd mae’n lleihau ein hôl troed CO2 ar yr un pryd. Ond rydyn ni’n dal i hybu chwaraeon. Pam?

Oherwydd mae chwaraeon yn cynnig rhywbeth ychwanegol at yr hyn mae teithio egnïol a ffurfiau eraill ar weithgarwch corfforol yn gallu ei ddarparu. Mae chwaraeon yn cynnig llawer mwy na dim ond ffordd o gadw’n egnïol yn gorfforol.  Mae’n cynnig profiadau sy’n diwallu anghenion ar lefel uwch sy’n hanfodol bwysig i gymdeithas lewyrchus. Felly, os ydyn ni eisiau i genedlaethau’r dyfodol ffynnu yn hytrach na dim ond goroesi, rhaid i chwaraeon aros ar yr agenda.

Fel ysgewyll Brwsel, dylai pawb gael opsiwn i fwynhau chwaraeon a gyflwynir yn dda  

Mae gorgoginio ysgewyll Brwsel yn gwneud iddyn nhw arogli fel wyau drwg. Ar y llaw arall, gall ysgewyll rhost, wedi’u ffrïo neu wedi’u grilio flasu’n felys ac fel cnau – ac yn hyfryd. Dylai pawb gael yr opsiwn o flasu ysgewyll Brwsel sydd wedi’u paratoi’n dda, dim ots pwy ydyn nhw. Wedi’r cwbl, mae mwy na 110 o amrywiaethau gwahanol o ysgewyll i ddewis o’u plith, felly mae ysgewyll addas i bawb ar gael.

Yn yr un modd, dylai pawb, heb ystyried eu hoedran, eu rhywedd, lliw eu croen, eu crefydd na’u rhywioldeb gael cyfle i gymryd rhan mewn cyfleoedd chwaraeon o ansawdd uchel a phrofi pleserau
chwaraeon os ydynt yn dymuno. Yn wir, mae cyfranogiad mewn chwaraeon yn ddewis y dylai pawb gael cyfle i’w wneud.

Ond er mwyn i bobl ddeall y manteision drostynt eu hunain, rhaid ‘coginio’ chwaraeon yn briodol. Fel ysgewyll Brwsel wedi’u gorgoginio, gall profiad gwael wneud i unigolyn droi ei gefn am oes. Nid yw chwaraeon yn angen sylfaenol ac felly rhaid iddynt fod yn apelgar er mwyn denu pobl i gymryd rhan. Rhaid iddynt fod ar gael yn y lle priodol, ar yr amser priodol, ar y ffurf briodol, am y pris priodol a chael eu cyflwyno gan y bobl briodol. Os na fydd hynny’n digwydd, fel ysgewyll Brwsel, dim ond goddef chwaraeon a wneir neu, yn waeth fyth, eu diystyru.

Fel ysgewyll Brwsel, does dim modd gwneud chwaraeon yn unig opsiwn na’u cynnig ar eu pen eu hunain     

Dim ond rhan fechan o’r cinio Nadolig yw ysgewyll Brwsel. Mae llysiau eraill ac mae grwpiau bwyd eraill sy’n cyfrannu at ei wneud yn flasus dros ben.
 
Yn yr un modd, dim ond rhan o’r sbectrwm gweithgarwch corfforol yw chwaraeon. Mae ffurfiau eraill ar weithgarwch corfforol ac mae sefydliadau eraill yng Nghymru sy’n gorfod cyfrannu at fwydlen a gydlynir o opsiynau sydd ar gael er mwyn cadw’n egnïol yn gorfforol a diwallu anghenion ar lefel uwch. Bydd rhai pobl yn dewis chwaraeon. Bydd eraill yn dewis peidio. Ac mae hynny’n iawn, cyn belled nad diffyg cyfle sy’n eu dal nhw’n ôl.

Beth mae hyn i gyd yn ei olygu ar gyfer chwaraeon yng Nghymru?

I grynhoi, mae’n rhaid i ni gydnabod bod chwaraeon yn gallu cyfrannu at lesiant cenedlaethau’r dyfodol, ond nid ydynt yn hanfodol. Nid yw chwaraeon yn angen sylfaenol; yn hytrach mae chwaraeon yn galluogi’r cyfranogwr i ddiwallu anghenion lefel uwch, dianc neu brofi pleserau cyflawniad a balchder unigol neu ar y cyd. Fel hyn, mae gan chwaraeon lawer i’w gynnig a dylent fod ar gael i bawb. Dylai pob plentyn allu profi’r pleserau hyn a dylai pob oedolyn gael cyfle i ddal ati i’w mwynhau os yw’n dymuno. Ond nid chwaraeon yw’r unig opsiwn ar gyfer cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a hamdden ac ni fydd pawb yn dewis cymryd rhan mewn chwaraeon. Bydd rhai’n eu caru. ’Fydd eraill ddim yn eu hoffi. Ac mae hynny’n iawn. Mewn cyfnod lle mae cymdeithas yn croesawu ac yn cydnabod manteision amrywiaeth fwy a mwy, mae’n rhaid i ni dderbyn y bydd amrywiaeth yn y modd y mae pobl Cymru’n dewis treulio eu hamser. Rhaid i ni gydnabod bod opsiynau eraill ar gael ar gyfer gweithgarwch corfforol a hamdden ac y gallwn ni, drwy weithio gyda phartneriaid eraill, sicrhau bod y fwydlen o opsiynau sy’n cael ei chynnig i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a hamdden yn gyfoethog ac amrywiol.

Felly beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer chwaraeon yng Nghymru?

  1. Rhaid i’n gweledigaeth newydd ni fod yn realistig a chlir am rôl chwaraeon mewn cyfrannu at lesiant cenedlaethau’r dyfodol.
  2. I blant, mae’n rhaid i’n gweledigaeth ni sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru’n cael profiadau positif o chwaraeon fel eu bod yn gallu penderfynu pa gamp i’w dilyn er mwyn cadw’n egnïol yn gorfforol a chyflawni mewn bywyd.
  3. I oedolion, mae’n rhaid i ni gydnabod bod chwaraeon yn ddewis. O dderbyn hyn, gallai fod yn werth ystyried a yw ein llwyddiant ni fel sector yn cael ei fesur yn well drwy gyfrwng nifer o gyfleoedd hygyrch a phleserus sy’n rhoi hwb i hyder yr ydym yn eu creu i bobl gymryd rhan os ydynt yn dymuno, yn hytrach na dim ond nifer y cyfranogwyr.
  4. Dim ond un eitem yw chwaraeon ar y fwydlen o opsiynau y dylai Cymru eu cynnig i gadw’n egnïol a mwynhau bywyd. Rhaid i ni gydweithio â phartneriaid eraill i sicrhau bod y fwydlen hon o opsiynau’n cael ei chydlynu a’i pharatoi gan y bobl briodol, ar yr amser priodol, ac yn y llefydd priodol ...

Felly, mae chwaraeon yn eithaf tebyg i ysgewyll Brwsel. Mae rhai’n eu caru, rhai’n eu goddef oherwydd eu manteision iechyd a rhai’n eu casáu. Serch hynny, dylai pawb gael cyfle i’w bwyta os ydynt yn dymuno, ochr yn ochr â moron, pannas a saws llugaeron wrth gwrs ...

Lauren Carter-Davies

Nawr mae’n amser i chi roi gwybod i ni beth ydi’ch barn chi. Defnyddiwch yr adran Sylwadau isod i rannu eich safbwyntiau.

Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio 'Chwaraeon a Fi - Y Sgwrs', cyfle i bawb yng Nghymru roi eu barn ar ddyfodol chwaraeon Cymru.

Am fwy o wybodaeth ac i roi eich barn ewch i www.chwaraeonafi.cymru

Comments

Popular posts from this blog

Dal ati i fod yn egnïol – beth sy’n gwneud y gwahaniaeth?

Mynd ati i annog rhedwyr newydd