Gweithredu Nawr i ddiogelu Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Ar gyfer Chwaraeon a Fi_Y Sgwrs, mae arbenigwyr amrywiol yn rhannu eu syniadau am ddyfodol chwaraeon yng Nghymru.
“Ghost of the Future, I fear you more than any spectre I have seen. But as I know your purpose is to do me good, and as I hope to live to be another man from what I was, I am prepared to bear you company, and do it with a thankful heart. Will you not speak to me?” Charles Dickens, A Christmas Carol
Heddiw
rydyn ni’n gweld y cyntaf mewn cyfres o negeseuon gan Al Smith, Jono Byrne,
Mark Upton (crëwyr ar y cyd myfastestmile) ac Owen Lewis o Chwaraeon Cymru.
“Ghost of the Future, I fear you more than any spectre I have seen. But as I know your purpose is to do me good, and as I hope to live to be another man from what I was, I am prepared to bear you company, and do it with a thankful heart. Will you not speak to me?” Charles Dickens, A Christmas Carol
Wrth i’r tymor ewyllys da nesáu ac wrth i ni baratoi ar gyfer treulio
rhywfaint o amser cwbl haeddiannol gyda theulu a ffrindiau, mae’n amser da am funud
i feddwl am beth rydyn ni’n ei wneud yn ein bywydau proffesiynol i ddarparu ar
gyfer llesiant eraill. Wrth groesawu’r cyfle sydd yn Neddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol, rydyn ni’n ein gwahodd ein hunain i gael ein harwain
gan fwriadau yn y dyfodol yn hytrach na chanolbwyntio ar lwyddiant y presennol
yn unig, neu gael ein clymu wrth ffyrdd y gorffennol. Er mwyn bodloni’r
dyheadau am Gymru fywiog, gydlynus, fwy cyfartal, iachach, gydnerth, lewyrchus
a chyfrifol, bydd rhaid i ni ailddychmygu ein busnes o ran meddwl a gweithred.
I Scrooge roedd hyn yn cynnwys gwahoddiad i ystyried gweld bywyd fel ei fusnes,
yn hytrach na gweld busnes fel ei fywyd.
“Business!” cried the Ghost, wringing its hands again. "Mankind was my business; charity, mercy, forbearance, and benevolence, were, all, my business. The deals of my trade were but a drop of water in the comprehensive ocean of my business!”
Cyn i ni frysio i farnu’r dyn cybyddlyd yma, efallai y dylen ni ystyried y
gymhariaeth anghyfforddus rhwng sylw manwl Scrooge i gyfri’r ceiniogau a’n hoffter
presennol ni o reoli yn ôl metrigau. Er bod lle, yn sicr, i fesur fel sail i’n
camau gweithredu, pan rydyn ni’n gadael i hynny lywio ein cyfeiriad ni mewn
bywyd, mae’n arwain at bob math o ganlyniadau anfwriadol …
“Darkness is cheap and Scrooge
liked it.”
… er mwyn osgoi mynd i’r cyfeiriad yma, mae’n rhaid i ni ystyried nid yn
unig beth rydyn ni’n ei fesur, ond i ba ddiben. Nid yw systemau mesur, dim ots
pa mor helaeth ydyn nhw, wedi’u creu i ddelio ag ansicrwydd neu fân
wahaniaethau, ond mae bodau dynol. Os ydyn ni am elwa o fywyd sy’n cael ei fyw
yn dda, rhaid i ni sicrhau bod pobl wrth galon ein proses ni o wneud penderfyniadau
ac mai dim ond y pethau sy’n bwysig ydyn ni’n eu mesur yn ein hymdrechion ni i
wneud synnwyr o’r ddeinameg sydd ar waith yn ein byd ni.
Wrth i ni symud i’r Flwyddyn Newydd, byddwn yn edrych, mewn cyfres o
erthyglau dilynol, ar beth fyddai’n ei olygu o roi sylw gwell i beth sy’n
bwysig, yn hytrach na chaniatáu i ni ein hunain gael ein harwain gan beth allwn
ni ei fesur.
“I will honour Christmas in
my heart, and try to keep it all the year. I will live in the Past, the
Present, and the Future. The Spirits of all Three shall strive within me.
I will not shut out the lessons that they teach!’’
Al Smith, Jono Byrne, Mark Upton ac Owen Lewis
Nawr mae’n amser i chi roi gwybod i ni beth ydi’ch barn chi. Defnyddiwch yr adran Sylwadau isod i rannu eich safbwyntiau.
Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio 'Chwaraeon a Fi - Y Sgwrs', cyfle i bawb yng Nghymru roi eu barn ar ddyfodol chwaraeon Cymru.
Comments
Post a Comment