Fedr ysgolion weithio’n galetach fel bod pawb ar eu hennill?
Ar gyfer Chwaraeon a Fi_Y Sgwrs, mae
arbenigwyr amrywiol yn rhannu eu syniadau am ddyfodol chwaraeon yng Nghymru.
Heddiw mae Owen Hathaway o o'r Undeb Addysg Cenedlaethol yn dadlau y gallai ailfeddwl am adeiladau ysgolion danio cyfleoedd newydd.
Heddiw mae Owen Hathaway o o'r Undeb Addysg Cenedlaethol yn dadlau y gallai ailfeddwl am adeiladau ysgolion danio cyfleoedd newydd.
Un thema gyffredin rydyn ni’n
ei gweld ar draws yr holl ysgolion sy’n perfformio’n dda yw eu bod, yn anochel,
yn cael cefnogaeth y gymuned. Os yw ysgolion wir yn cael eu gweld fel
canolbwynt eu cymdeithasau, gyda rhieni ac athrawon yn cydweithio, a datblygiad
y plentyn yn cael ei ystyried fel rhywbeth sy’n ymestyn y tu hwnt i amserlen yr
ysgol, mae’r cyflawniad a’r llesiant ar eu gorau.
Un ffordd i’r sector addysg
sicrhau bod gwell perthnasoedd yn cael eu creu rhwng ysgolion a chymunedau yw
drwy sefydlu ein sefydliadau fel adnodd cymunedol. Adeilad ysgol fel deorydd i
chwilfrydedd academaidd yn ystod y dydd a chartref i archwilio allgyrsiol y tu
allan i’r oriau hynny.
Yn rhy aml yn ystod y blynyddoedd
diwethaf, mae canlyniadau, anfwriadol neu fel arall, mentrau Llywodraeth Cymru,
fel y fframwaith llythrennedd a rhifedd, bandiau a chategorïau ysgolion neu
brofion safonol, wedi bod yn culhau’r cwricwlwm. Mae’r pynciau creadigol fel
celf, cerddoriaeth, drama ac addysg gorfforol wedi cael eu gwthio i’r cyrion, a
gyda hwy y pwyslais ar agweddau allweddol ar lesiant disgyblion a datblygiad
plant. Mae’n iawn i ni adeiladu ar y cyfleoedd a gyflwynir gan ddiwygiadau, fel
cynllunio’r cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru, i ymgorffori eu pwysigrwydd yn y
diwrnod ysgol unwaith eto.
Er hynny, dylem hefyd edrych ar y llwybrau estynedig
sydd ar gael. Drwy weithio gyda grwpiau cymunedol, clybiau chwaraeon,
gwirfoddolwyr a mudiadau’r trydydd sector, gall ysgolion greu adnodd yn eu
hardaloedd sydd nid yn unig yn gwella ansawdd ein sector addysg ond hefyd yn
gallu wynebu’r heriau a gyflwynir gan doriadau mawr i’n gwasanaethau hamdden yn
sgil setliadau cyllidebau cyni flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Wrth alw am well defnydd o adeiladau
ysgolion, mae’n bwysig cydnabod dau bwynt allweddol. I ddechrau, mae’r lefel
yma o gydweithredu eisoes yn digwydd mewn rhai rhannau o Gymru yn sicr. A’r hyn
sydd fwyaf tebygol yn yr achosion hyn yw bod athrawon yn mynd yr ail filltir, y
tu hwnt i ddyletswyddau eu swydd, er mwyn cynnal y clybiau ar ôl ysgol yma. Yn
ail, rydw i’n ymwybodol iawn o’r gofynion ar y proffesiwn addysgu ar hyn o
bryd. Darparodd arolwg Cyngor y Gweithlu Addysg ar y sector rai manylion
dychrynllyd am y pwysau sydd ar ysgwyddau ymarferwyr mewn ystafelloedd dosbarth
ar hyn o bryd:
- Roedd 78.1% o athrawon yn teimlo bod baich gwaith yn broblem.
- Datgelodd athrawon ysgol llawn amser eu bod yn gweithio cyfartaledd o 50.7 awr yn rheolaidd yn ystod yr wythnos waith.
- Dywedodd 33.6% o athrawon ysgol eu bod yn bwriadu gadael y proffesiwn yn ystod y tair blynedd nesaf.
Er ei bod yn demtasiwn bod
eisiau i athrawon ysgwyddo rôl a chyfrifoldebau ychwanegol, a disgwyl hynny, y
gwir yw bod hyn yn anghynaliadwy. Er mwyn cyrraedd y nod o gael adeiladau ysgolion
yn ganolfannau cymunedol, bydd rhaid wrth fwy o fuddsoddiad ar lefel
genedlaethol a lleol. Gall hynny fod ar ffurf darpariaeth gofal plant i rieni
neu gyflogi unigolion mewn rôl benodol i redeg y cyfleusterau hyn a
gweithgareddau a chlybiau. Mae cyflwyno’r ddadl hon ar adeg pan mae pob sector
yn ei hanfod yn gweld eu cyllidebau’n cael eu hamsugno’n rhan o’r portffolio
iechyd yn anodd, ond eto mae hwn yn gynnig buddsoddi i arbed.
Mae gennym ni
gyfle i greu amgylchedd lle mae pawb yn enillydd. I blant mae manteision
addysgol a chorfforol clir a gall hynny fod yn sbardun i gynnwys y rhai sy’n
cael eu difreinio’n aml gan weithgareddau academaidd traddodiadol. I rieni
mae’n cynnig diogelwch o ran gofal adeiladol o amgylch eu diwrnod gwaith, gan
ychwanegu at hyfywedd economaidd ein gwlad ni, yn enwedig os yw’r adnoddau ar
gael drwy gydol y penwythnos a thros wyliau’r ysgol hefyd. I athrawon, mae
tynnu’r gweithgareddau allgyrsiol hynny oddi ar eu hagenda’n helpu i fynd i’r
afael â phroblemau baich gwaith ystyfnig sy’n andwyo’r sector. Yn olaf, i
lunwyr polisïau mae’n gwella ein rhagolygon addysgol, iechyd ac economaidd gyda
photensial am lwyddiant ar unwaith a thymor hir yn y meysydd hyn.
Bydd rhwystrau ar y ffordd o
ran cyflawni’r uchelgais hwn. Y cwestiwn mawr ydi a fydd y rhai sydd â’r
ewyllys ac, yn bwysicach, y rhai sy’n dal llinynnau’r pwrs, yn gallu gweld y tu
hwnt i’r problemau gyda chyflawni heddiw, ac edrych ymlaen at y datrysiadau a
sicrheir yfory.
Owen Hathaway
Yr Undeb Addysg Cenedlaethol
Owen Hathaway
Yr Undeb Addysg Cenedlaethol
Nawr
mae’n amser i chi roi gwybod i ni beth ydi’ch barn chi. Defnyddiwch yr adran
Sylwadau isod i rannu eich safbwyntiau.
Mae Chwaraeon
Cymru wedi lansio 'Chwaraeon a Fi - Y Sgwrs', cyfle i bawb yng Nghymru roi eu
barn ar ddyfodol chwaraeon Cymru.
Comments
Post a Comment